top of page
Search
  • 850931

Ydy ffasiwn brys yn ffab neu ‘drab’?

Updated: Jan 4, 2021



(O Wikimedia Commons)


Paris, Llundain, Efrog Newydd, Milan… mae’r dinasoedd yma yn dod â delweddau o soffistigedigrwydd, bwrlwm a thân gwyllt o gyffro i’r meddwl. Mae pawb eisiau mynd i’r mannau twristiaid yma er mwyn profi bywyd arall; bywyd newydd sydd llawn gobaith. Rhywbeth arall sydd yn neidio i’r dychymyg wrth freuddwydio am y llefydd yma yw ffasiwn - mae yna sioeau ffasiwn gyda modelau yn slincio lawr y ‘catwalk’ ym mhob un o’r dinasoedd yma pob blwyddyn, gyda goreuon y busnes yn cyflwyno eu creadigaethau er mwyn i’r holl fyd eu gweld. Ond mae yna graidd pwdr o dan yr hudoliaeth allanol: arferion ffasiwn brys.



(Cerddoriaeth o iMovie)


Ffasiwn brys yw strategaeth busnes sydd yn ceisio lleihau prosesau prynu. Mae manwerthwyr yn cynhyrchu dillad mewn llai o amser er mwyn ateb galw gan gwsmeriaid o ganlyniad. Mae hyn yn swnio’n wych yn gyntaf - mwy o ddillad am lai o arian? Ie plîs! Ond mae yna effaith ddinistriol ar yr amgylchedd oherwydd yr ymarfer hyn, gan fod yna ormodedd o ddillad yn cael eu cynhyrchu. O ganlyniad, mae’r dillad sydd ddim yn cael eu gwerthu yn cael eu llosgi neu eu rhoi yn hytrach mewn safleoedd tirlenwi, sydd yn arwain at effeithiau hirdymor wrth i’r dillad dorri lawr dros gyfnod o ganrifoedd o flynyddoedd.


Ond sut mae dylunwyr ffasiwn yn rhan o’r broblem? Mae’r diwydiant ffasiwn yn gyfrifol am 10% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr, 20% o ddŵr gwastraff i gyd ac yn defnyddio mwy o egni na’r diwydiannau cludo a hedfan gyda’i gilydd. Hefyd, yn lle creu dillad am ddau dymor y flwyddyn yn unig (gwanwyn/haf a hydref/gaeaf), mae’r diwydiant yn cynhyrchu dillad ar gyfer 52 'micro-dymor' pob flwyddyn er mwyn ymateb i drendiau newydd. Felly, mae’n glir bod yna ddifrod i’r amgylchedd mewn ffyrdd amrywiol o achos y diwydiant ffasiwn, ac mae’r ffaith bod cwsmeriaid dal i ysu am fwy o ddillad ddim yn helpu’r broblem.



(O Pixabay)


Felly, beth sy’n cael ei wneud i daclo ffasiwn brys yn y diwydiant? Yn uwchgynhadledd G7 yn 2019, arwyddodd 32 cwmni ffasiwn gytundeb ffasiwn er mwyn pwysleisio cynaliadwyedd yn y diwydiant. Chanel, Ralph Lauren, Prada a mwy oedd yn rhan o’r cam arloesol yma, a hefyd brandiau’r stryd fawr fel H&M a Zara sydd hefyd wedi cael eu cyhuddo o fanteisio ar strategaeth ffasiwn brys. Yn ogystal â hyn, ysgrifennodd Dries Van Noten, sef dylunydd ffasiwn, lythyr agored i’r diwydiant i ofyn am newid ynglŷn â’r ‘seasonality and flow of both womenswear and menswear goods, starting with the Autumn/Winter 2020 season’. Cafodd hyn ei ysgogi gan yr angen am gynaliadwyedd yn y maes, ac i amddiffyn creadigrwydd trwy gynhyrchu llai o ddillad pob blwyddyn. Mae’n amlwg felly bod dylunwyr ffasiwn yn ceisio edrych am opsiynau eraill er budd y blaned ac i amddiffyn eu gwaith nhw.


Mae COVID-19 hefyd wedi chwarae rhan mewn gwthio dylunwyr i chwilio am ffyrdd eraill o gynhyrchu dyluniadau deniadol. Nododd Marc Jacobs sut doedd e ddim yn mynd i gynnal ei sioe ffasiwn nesaf oherwydd diffyg deunydd a phresenoldeb cwsmeriaid, felly mae’r amhosibilrwydd o allu creu dillad newydd wedi gorfodi’r diwydiant i arafu ac i feddwl am y dyfodol yn wahanol. Mae hyn yn estyn at siopau ffasiwn hefyd, gan dyw e ddim yn bosib cael yr un faint o weithwyr mewn ffatri ar yr un pryd i gynhyrchu dillad oherwydd mesurau cadw pellter. Y gobaith yw fydd y pandemig yn newid ymarferion y cwmnïoedd ffasiwn yma er mwyn ymgorffori rhai sydd yn fwy caredig tuag at yr amgylchedd.

Wrth gwrs, dyw hynny ddim yn bosib heboch chi, y cwsmer ifanc. Yn ôl Sofie Wilmott, sef Dadansoddwr Manwerthu Arweiniol ar gyfer GlobalData: ‘Young consumers are increasingly comfortable buying secondhand clothing with marketplaces like Depop soaring in popularity’. Oherwydd hyn ac oherwydd bod cwsmeriaid ifanc yn galw am newidiadau enfawr yn y diwydiant er mwyn achub yr amgylchedd, mae cynhyrchwyr ffasiwn yn gorfod ymateb i leisiau’r cyhoedd i beidio colli eu cwsmeriaid.


(O Wikimedia Commons)

I ddyfynnu David Attenborough, eicon cadwraeth ein hamser: ‘Young people: they care… they actually believe that humanity, human species, has no right to destroy and despoil regardless’. Mae rhaid i ni sefyll yn erbyn dylunwyr ffasiwn i sicrhau dyfodol disglair heb ffasiwn brys.

Ffynonellau ymchwil

Recent Posts

See All
Post: Blog2 Post
bottom of page