top of page
Search
850931

Ydy'r Cenhedloedd Unedig yn osgoi ffasiwn brys?

“Millions throughout the world - especially young people - are calling on leaders from all sectors to do more, much more, to address the climate emergency we face”. Dyna ddywedodd Mr António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, yn ystod Cynhadledd Newid Hinsawdd Y Cenhedloedd Unedig yn 2019. Pwrpas y gynhadledd oedd dewis y camau nesaf i daclo cynhesu byd eang, ac fe drafodwyd meysydd penodol megis coedwigoedd, y môr, dinasoedd ac amaethyddiaeth i ffocysu arnynt yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ond beth am ffasiwn brys?


Pan mae dillad yn cael eu taflu allan, maen nhw’n naill ai’n pydru mewn tirlenwi, cael eu llosgi neu eu claddu o dan y ddaear. Wrth iddynt dorri lawr, maen nhw’n rhyddhau nwyon peryglus dros amser hir sydd yn effeithio’r amgylchedd. Methan yw’r nwy mwyaf cyffredin sydd yn cael ei ryddhau, ac mae e’n fwy grymus na charbon deuocsid. Mae’n amsugno 20 gwaith mwy o wres yn yr atmosffer, sydd yn gwneud tirlenwi yn un o'r cyfranwyr mwyaf o fethan atmosfferig. Ond nid dim ond nwyon tŷ gwydr sydd yn bygwth iechyd yr amgylchedd - mae’r llifynnau a chemegau sydd yn bresennol mewn dillad yn gallu halogi’r pridd a dŵr o gwmpas tirlenwi hefyd.


Yn ychwanegol, mae defnydd dillad yn gallu effeithio’n cefnforoedd. Yn ôl gwefan Fashion Revolution, fe amcangyfrifwyd bod 1.4 miliwn triliwn o ficro ffibrau yn y cefnforoedd ar hyn o bryd. Os bydd y diwydiant ffasiwn yn parhau mewn senario busnes fel arfer, bydd 22 miliwn tunnell o ficro ffibrau yn gwneud eu ffordd i’n cefnforoedd rhwng 2015 a 2050. Rydym yn ymwybodol o effeithiau dinistriol mae plastig yn cael ar y môr oherwydd rhaglenni dogfen fel Blue Planet II, ond dydyn ni ddim yn meddwl am sut mae dillad yn rhan o’r broblem hon.


Yn amlwg, mae rhaid i bethau newid i gynnwys ffasiwn brys fel rhan o drafodaethau cynhesu byd eang. Dyma Bethany Coram o UWTSD yn trafod sut mae hi'n creu dillad mewn modd cynaliadwy:







Ond sut allwn ni godi ymwybyddiaeth am y broblem hon gyda gwleidyddion mwyaf pwerus y byd, er mwyn iddynt gymryd y broblem yn ddifrifol? Un peth hynod o bwysig ond syml allech chi wneud yw cysylltu gyda’r Cenhedloedd Unedig i godi’r mater gyda nhw. Ar eu gwefan, mae yna gyfeiriad e-bost sydd ar gyfer ymholiadau cyffredinol sef secretariat@unfccc.int, felly gofynnwch am gynrychiolaeth deg ynglŷn â ffasiwn brys a’r amgylchedd. Gallech chi hefyd wneud hyn gyda’ch AS lleol, er mwyn creu effaith positif yn eich cymuned a dechrau’r sgwrs yn agos at gartref.


Yn ogystal â hyn, mae yna ddeisebau ar gael ar-lein trwy’r amser sydd yn gofyn am weithredu o ran taclo ffasiwn brys. Edrychwch ar wefannau fel change.org a petition.parliament.uk i arwyddo’ch enw yn erbyn addewid i leihau effeithiau ffasiwn brys ar ein byd.





Mae’r Cenhedloedd Unedig yn gwybod taw pobl ifanc sydd yn gofyn am newid yn gyson ynglŷn â chynhesu byd eang, a taw nhw sy’n ceisio creu’r llwybr tuag at ddyfodol mwy diogel, glân a gwyrdd. Felly mae’n bwysig bod y genhedlaeth ifanc yn rhoi ffasiwn brys ar radar gwleidyddion, cymunedau a’r byd i gyd er mwyn helpu’r blaned gam wrth gam.


Ffynonellau




26 views0 comments

Recent Posts

See All

Comentários


Post: Blog2 Post
bottom of page