top of page
Search
  • 850931

Sut i greu cwpwrdd dillad capsiwl eich hun!

Pob amser rydych chi’n mynd mas i siopa, bwyta neu i gwrdd â rhywun, ydych chi’n meddwl: does dim byd i fi wisgo, does gen i ddim dillad o gwbl?! Rydyn ni gyd wedi wynebu’r broblem hynny, ac er bod yna ddigonedd o ddillad gyda ni yn ein cypyrddau mae’r teimlad o ddim byd yn paru gyda’i gilydd yn rhwystredig iawn. Dyma ble mae’r cwpwrdd dillad capsiwl yn dod i’ch helpu - dewiswch rai eitemau niwtral a chymysgwch nhw i greu gwisgoedd grêt!


Esiamplau i'ch helpu ddechrau



Mae sgert ddu a gwyn mor gyfleus i greu cymaint o wisgoedd! Er mwyn dod â bywyd i’r wisg, parwch y sgert gyda siwmper liwgar - gallech hefyd wisgo siwmper gyda phatrwm arni er mwyn creu ‘clash’ gyda’r sgert!


Gyda siwmper batrymog


Crys-t a sgert? Wrth gwrs!

Gallwch hefyd wisgo’r sgert gyda chrys-t, felly bydd y wisg hon yn ddelfrydol ar gyfer yr haf neu’r gaeaf!



Wedi diflasu o wisgo crys gyda jîns? Trïwch wisgo fe gyda dyngarîs yn lle! Mae hwn yn esiampl berffaith o wisg ‘smart casual’ 😎



Gyda’r un pâr o ddyngarîs, gallech wisgo siwmper gynnes er mwyn cael gwisg hamddenol ar gyfer y penwythnos. Bydd unrhyw liw yn edrych yn dda - arbrofwch gyda lliwiau llachar, meddal neu unlliw!



Mae pawb eisiau eitem sydd yn dda ar gyfer unrhyw achlysur, reit? Dyma ble mae’r ‘body suit’ yn dod yn ddefnyddiol! Parwch e gyda sgert o wead gwahanol er mwyn cael ffit dynn a deniadol.



Mae’r un ‘body suit’ yn berffaith gyda jîns hefyd! I gael mwy o bwyslais, defnyddiwch wregys fel canolbwynt y wisg - bydd e’n creu toriad rhwng lliwiau tywyll fel bonws.


Dyma rai syniadau eraill i chi - trïwch y siwmper binc gyda’r sgert ddu, y siwmper oren gyda’r dyngarîs a’r ‘body suit’ gyda’r sgert ddu a gwyn! Does dim diwedd ar y faint o steiliau rydych chi’n gallu creu gydag ychydig o eitemau!

Recent Posts

See All
Post: Blog2 Post
bottom of page