top of page
Search
  • 19056414

Ydy dylanwadwyr yn gwthio Ffasiwn Brys?





Ym mlwyddyn 2020 mae’n anodd dychmygu cymdeithas heb ddylanwadwyr. Ond ydy hyn yn beth da neu beidio ? Mae mwy na hanner siopwyr y DU yn credu bod dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol y tu ôl i'r cynnydd mewn ffasiwn brys, yn ôl ymchwil newydd a ryddhawyd gan 'Fashion Retail Academy.'


Beth a phwy yw dylanwadwyr ? Rôl hynod o bwysig sydd gan ddylanwadwyr heddiw mewn cymdeithas, gan fod statws nhw mor uchel a dylanwadol mae ganddynt y pŵer i ddylanwadu eraill yn enwedig pobl iau. I egluro , eu rôl nhw fel dylanwadwr yw annog eu cynulleidfa i brynu neu gefnogi brandiau penodol, gwerthu nwyddau i'w cynulleidfa a hyrwyddo ar sail blatfform byd-eang. Mae gan fwyafrif o ddylanwadwyr dros filiynau o ddilynwyr ar draws gwahanol blatfformau gan gynnwys Instagram a Twitter.


Gall bywyd dylanwadwyr swnio’n berffaith erbyn hyn, ond dyma beth sy’n arwain ni i ein cwestiwn hollbwysig sut mae’r dylanwadwyr yma yn fforddio bywyd mor foethus ? Yr ateb yw cwblhau hysbysebion ar gyfer brandiau penodol gan hyrwyddo a hysbysebu eu nwyddau i'w gynulleidfa. Y brandiau fwyaf poblogaidd sydd yn cael eu hyrwyddo gan dylanwadwyr yw ‘PrettyLittleThing, MissGuided a Boohoo’ a'r nwyddau maent yn gwthio i'w cynulleidfaoedd yw eitemau ffasiwn. Pob un o’r brandiau uchod yn cyfrannu at y broblem ffasiwn brys. Talu’r brandiau nifer sylweddol i’r dylanwadwyr i hyrwyddo ei brand a nwyddau sydd wedyn yn cysylltu gyda milynoedd o bobl ac yn gyrru traffig i’r brandiau.

Tacteg brand strategaethol iawn, ond pam mae’r dylanwadwyr yn gwthio'r eitemau ffasiwn rad hyn nid ydynt yn egluro'r effeithiau costus i’r amgylchedd neu weithwyr y brand. Rhaid ystyried bod rhai dylanwadwyr yn codi llais am y materion hyn, ond maen nhw'n welw o'u cymharu â'r rhai sy'n ei anwybyddu.


Enghraifft arbennig yw Molly-Mae rydw i’n hoff iawn o Molly-Mae. Molly-Mae yw dylanwadwr a oedd wedi ennill sylw sylweddol ar ôl ei amser ar y rhaglen teledu ‘Love Island’. Nawr mae gan Molly-Mae 5miliwn o ddilynwyr ar Instagram a phartneriaeth gyda Prettylittlething. Enghraifft arall yw Maura Higgins sydd yn dylanwadwr hefyd a oedd wedi ennill sylw ar ôl arddangos ar y rhaglen ‘Love Island’. Mae gan Maura partneriaeth gydag Ann Summers a Boohoo a nawr yn cael 3.1miliwn o ddilynwyr ar Instagram. Mae’r ddwy ohonom gyda'i gilydd yn cael bron 10miliwn o ddilynwyr a dylanwadwyd nhw. Rwyf yn edmygu eu cymeriadau ond nid yw Molly-Mae neu Maura Higgins yn siarad yn gyhoeddus am effeithiau ffasiwn brys a’r brandiau maen nhw’n yn gwthio.


Beth yw’r effeithiau costus a sut mae dylanwadwyr yn cyfrannu ?


Erbyn hyn mae dylanwadwyr yn dal dylanwad enfawr dros yr hyn y mae pobl yn ei wisgo trwy bostio lluniau ohonyn nhw eu hunain mewn amrywiaeth o wisgoedd ar gyfryngau cymdeithasol - ac yn aml ddim yn gwisgo'r un peth ddwywaith. Maent yn ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr brynu ar unwaith trwy gynnwys tagiau a linciau i frandiau ffasiwn brys. Mae'r dylanwadwyr yn ysbrydoli eraill a gwthio eu cynulleidfa i fynd i'r siopau i greu edrychiadau tebyg gyda beth maent yn hyrwyddo.Felly bydd nifer o bobl yn dilyn eu dylanwad a siopa yn union fel nhw o’r' brandiau maent yn hyrwyddo. Fodd bynnag, ni all pawb fforddio labeli pen uchaf, ac felly manwerthwyr sy'n gwerthu dillad llai costus yw eu cyrchfan o'u dewis.Yn ychwanegol mae hyn yn cyfrannu yn sylweddol i'r broblem ffasiwn brys. Mae hyn yn oherwydd bod costau llai ym myd ffasiwn yn debygol iawn o fod yn ganlyniad o dalu gweithwyr sy’n creu’r eitemau ffasiwn swm isel, isel iawn.


Mae’r arfer o brynu dillad wedi’i hyrwyddo gan dylanwadwyr pan mae’r eitemau yn ‘trendi’ mae hyn yn arwain at ormodedd o ddillad yn cael eu creu ar yr un amser. Wedyn pryd mae’r 'trend' wedi gorffen a does dim angen am yr holl ddillad, mae hyn yn arwain at ormodedd o ddillad ar y blaned a'r mwyafrif o’r dillad yn beni lan mewn safleoedd tirlenwi.


Er mwyn canfod persbectif dilynwr y dylnwadwyr sydd yn hyrwyddo ffasiwn brys wnes i gyfweld ag dilynwr Molly-Mae. Mae Bethan yn fenyw sydd yn gweithio'n llawn amser ac felly yn ffeindio brandiau ffasiwn brys yn gyfleus. Dyma'r fideo :




Beth nesaf ?


Nid bwriad y postiad hyn yw gwneud dylanwadwyr deimlon yn euog o gyfrannu at y broblem ffasiwn brys ond yn hytrach gobaith y postiad hyn yw addysgu pawb sydd yn ei darllen a gobeithio cysylltu gyda dylanwadwyr iddyn nhw sylweddoli eu cyfraniad a'u dylanwad a beth allent nhw wneud i helpu gyda phlatfformau enfawr nhw sy’n dylanwadu gymaint.



14 views0 comments

Recent Posts

See All
Post: Blog2 Post
bottom of page