top of page
Search
19056414

Sut i ymladd ffasiwn brys o'ch cartref chi!

Updated: Dec 28, 2020

Mae Ffasiwn brys yn broblem fyd-eang gyda mwyafrif o bobl yn anymwybodol bod nhw yn cyfrannu at y broblem, ond mae gen i gymorth a chyngor i’ch helpu dod â’ch arferion ffasiwn brys i stop.

Yn gyntaf, a oeddech chi’n ymwybodol bod rhychwant oes eich dillad yn para am ddim ond 2 flynedd! Un prif effaith ffasiwn brys yw ein tuedd i brynu dillad newydd sydd yn ‘drendy ’ac wedyn cael gwared â’n dillad arall. Felly i helpu lleihau’r effeithiau ffasiwn brys yma dyma dipiau efallai sydd yn o fudd i chi.

1. Rhowch i elusen o eich dewis – Mae bron pob elusen yn derbyn dillad. Ymchwiliwch eich elusen leol a chewch â’ch dillad yno. Neu gallwch rhoi mewn bocs post elusen sydd wedi ei ddylunio yn bwrpasol am ddillad. Mae’r gweithgaredd o roi eich dillad i elusen yn helpu lleihau effeithiau ffasiwn brys ond hefyd yn helpu’r llai ffodus sydd yn dibynnu ar elusennau am eu llesiant. Ffordd hawdd a gyflym yn dod o fy mhrofiad personol !




 

Gwrandewch ar fy mhrofiad i o roi i elusen!

https://soundcloud.com/carys-evans


 

Bonws arall am roi eich dillad i elusennau yw gallwch gael eich gwobrwyo gyda chodau disgownt siopa! Ewch i wefan https://regain-app.com/ ble maent yn egluro y camau i ennill y codau , mae’r codau yn cynnwys brandiau fel ‘New Balance, Superdry,Footasylum’ a mwy! Mwynhewch eich gwobrwyon gyda thawelwch meddwl bod eich dillad yn cael eu hailgylchu ac ni eu gwastraffu.


2 . Gwerthwch eich dillad ar-lein! – Mae hyn yn opsiwn sydd yn fuddiannol iawn i’r ddwy ochr. Yn lle taflu eich dillad i mas gyda dim clem am ble bydd eich dillad yn benni lan, beth am werthu eich dillad am arian? Gallwch ymlacio yn gwybod bod eich dillad wedi mynd i gartref diogel ac nid safle tirlenwi ,a'r peth gorau yw rydych yn cael ei talu am leihau eich effeithiau ffasiwn brys! Dyma rhestr o ble gallwch werthu eich dillad :





3. Ailgylchwch! – Ffaith frawychus yw bod llai na 1% o ddillad yn cael ei ailgylchu mewn i ddillad newydd. Yn lle taflu eich dillad i mas a phrynu dillad newydd beth am godi hobi newydd a dechrau crefftio ac ailgylchu eich dillad eich hun. Neu eu hailgylchu i wahanol wrthrychau fel bagiau, tyweli te a sgarffiau. Neu ddewis arall yw ailgylchu'ch dillad trwy eu rhoi i rywun rydych chi'n ei adnabod ac sydd â diddordeb yn eich dillad.


Os rydych am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan

am fwy o wybodaeth a cymorth am sut gallwch chi ailgylchu eich dillad.




Mae’r gweithredoedd uchod yn dod ar draws yn syml ac efallai rydych yn meddwl “ beth fydd newid arferion fi yn unigol yn wneud ?” Ond wrth i chi wneud newidiadau bach hyn rydych chi’n helpu’r byd, gwella’r amgylchedd, helpu pobl llai ffodus a gallwch ddylanwadu eraill i wneud yr un peth gan bostio eich gweithredoedd i wella ffasiwn brys ar rwydweithiau cymdeithasol gan gynnwys yr hashnod #FfasiwnBrys. Gadewch i bobl gweld sut rydych chi yn helpu taclo’r broblem gynyddol ffasiwn brys.

Mae eich cyfraniad chi yn bwysig.

14 views0 comments

Comments


Post: Blog2 Post
bottom of page